Joshua 19

Y tir gafodd llwyth Simeon

1Teuluoedd llwyth Simeon gafodd yr ail ran. Roedd eu tir nhw o fewn tiriogaeth Jwda.

2Roedd eu tir nhw yn cynnwys Beersheba
19:2 Beersheba Hebraeg yn ychwanegu “Sheba.” Ond byddai hyn yn gwneud 14, sydd un yn fwy na'r crynodeb yn adn.6 (gw. hefyd 1 Cronicl 4:28).
, Molada,
3Chatsar-shwal, Bala, Etsem, 4Eltolad, Bethwl, Horma, 5Siclag, Beth-marcaboth, Chatsar-swsa, 6Beth-lebaoth, a Sharwchen – un deg tair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas.
7Ain, Rimmon, Ether, ac Ashan – pedair o drefi, a'r pentrefi o'u cwmpas. 8Hefyd y pentrefi oedd o'u cwmpas nhw yr holl ffordd i Baalath-beër (sef Rama yn y Negef).

Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Simeon.
9Cafodd tir Simeon ei gymryd allan o gyfran Jwda, am fod gan Jwda ormod o dir. Felly roedd tir llwyth Simeon o fewn ffiniau Jwda.

Y tir gafodd llwyth Sabulon

10Teuluoedd llwyth Sabulon gafodd y drydedd ran.

Roedd ffin eu tiriogaeth nhw yn ymestyn yr holl ffordd i Sarid yn y de-ddwyrain. 11Roedd yn mynd i gyfeiriad y gorllewin i Marala, heibio Dabbesheth ac at y ceunant wrth Jocneam. 12O Sarid roedd yn troi i gyfeiriad y dwyrain at y ffin gyda Cisloth-tabor, yna ymlaen i Daberath, ac i fyny i Jaffia. 13Wedyn roedd yn croesi drosodd i Gath-heffer ac Eth-catsin ac ymlaen i Rimmon cyn troi i gyfeiriad Nea. 14Wedyn roedd yn mynd rownd i'r gogledd i Channathon ac yn gorffen yn Nyffryn Ifftachél.
15Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Catta, Nahalal, Shimron, Idala, a Bethlehem. Roedd ganddyn nhw un deg dwy o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas.

16Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Sabulon, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.

Y tir gafodd llwyth Issachar

17Teuluoedd llwyth Issachar gafodd y bedwaredd ran.

18Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Jesreel, Ceswloth, Shwnem, 19Chaffaraïm, Shion, Anacharath, 20Rabbith, Cishon, Ebes, 21Remeth, En-gannïm, En-hada a Beth-patsets. 22Roedd eu ffin yn cyffwrdd Mynydd Tabor, Shachatsima a Beth-shemesh, ac yn gorffen wrth yr Afon Iorddonen. Un deg chwech o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas.

23Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Issachar, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.

Y tir gafodd llwyth Asher

24Teuluoedd llwyth Asher gafodd y bumed ran.

25Roedd eu tiriogaeth nhw yn cynnwys Helcath, Chali, Beten, Achsaff, 26Alammelech, Amad, a Mishal.
Roedd eu ffin nhw yn mynd o Carmel yn y gorllewin i Shichor-libnath.
27Wedyn roedd yn troi i'r dwyrain i gyfeiriad Beth-dagon, at ffin llwyth Sabulon a Dyffryn Ifftachél i'r gogledd, yna i Beth-emec a Neiel, ac yna ymlaen i Cabwl yn y gogledd. 28Yna i Ebron, Rechob, Hammon, a Cana, yr holl ffordd i Sidon Fawr. 29Wedyn roedd yn troi i gyfeiriad Rama a tref gaerog Tyrus, cyn troi i Chosa a mynd at y môr. Roedd ganddyn nhw ddau ddeg dwy o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas, gan gynnwys Mahalab
19:29-30 Mahalab felly LXX; Hebraeg,  Mechefel
, Achsib, Acco
19:30 Acco felly LXX; Hebraeg,  Wmma
, Affec, a Rechob.

31Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Asher, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.

Y tir gafodd llwyth Nafftali

32Teuluoedd llwyth Nafftali gafodd y chweched ran.

33Roedd y ffin yn dechrau wrth Cheleff a'r dderwen yn Saänannim, yna mynd i Adami-necef, Iabneël, ymlaen i Lacwm, cyn gorffen wrth Afon Iorddonen. 34Wedyn roedd yn troi i'r gorllewin at Asnoth-tabor ac ymlaen i Chwcoc. Roedd yn ffinio gyda llwyth Sabulon i'r de, a llwyth Asher i'r gorllewin, a Jwda wrth Afon Iorddonen yn y dwyrain.
35Roedd y trefi caerog amddiffynnol yn cynnwys Sidim, Ser, Chamath, Raccath, Cinnereth, 36Adama, Rama, Chatsor, 37Cedesh, Edrei, En-chatsor, 38Iron, Migdal-el, Chorem, Beth-anath, a Beth-shemesh. Roedd ganddyn nhw un deg naw o drefi i gyd, a'r pentrefi o'u cwmpas. 39Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Nafftali, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.

Y tir gafodd llwyth Dan

40Teuluoedd llwyth Dan gafodd y seithfed ran.

41Roedd eu tir nhw'n cynnwys Sora, Eshtaol, Ir-shemesh, 42Shaalabin, Aialon, Ithla, 43Elon, Timna, Ecron, 44Eltece, Gibbethon, Baalath, 45Jehwd, Bene-berac, Gath-rimmon, 46Me-iarcon, a Raccon, gan gynnwys y tir o flaen Jopa.

47(Ond collodd llwyth Dan y tir gafodd ei roi iddyn nhw, felly dyma nhw'n mynd i'r gogledd ac yn ymosod ar Laish
19:47 Hebraeg  Leshem, sillafiad gwahanol o Laish (gw. hefyd Barnwyr 18:1-31)
. Dyma nhw'n cymryd y dref drosodd ac yn lladd pawb oedd yn byw yno, a newid enw'r dref i Dan, ar ôl eu hynafiad.)

48Dyma'r tir gafodd ei roi i deuluoedd llwyth Dan, yn cynnwys y trefi yma i gyd a'r pentrefi o'u cwmpas.

Y tir gafodd Josua

49Ar ôl rhannu'r tir i gyd rhwng y llwythau, dyma bobl Israel yn rhoi darn o dir i Josua fab Nwn. 50Roedd yr Arglwydd wedi dweud y byddai e'n cael pa dref bynnag oedd e eisiau. Dewisodd Timnath-serach ym mryniau Effraim. Ailadeiladodd y dref, a byw yno.

51Dyma sut cafodd y tir ei rannu gan Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn ac arweinwyr llwythau Israel. Cafodd y tir ei rannu drwy fwrw coelbren o flaen yr Arglwydd wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw yn Seilo. A dyna sut gwnaethon nhw orffen rhannu'r tir.

Copyright information for CYM